Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 16 Ionawr 2013 i’w hateb ar 30 Ionawr 2013

 

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

1. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am  ddatblygiadau cwricwlwm ar gyfer ysgolion. OAQ(4)0232(ESK)

2. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth arbenigol i blant ag ADHD mewn ysgolion.OAQ(4)0220(ESK)

3. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y polisïau y mae’n bwriadu eu cyflawni yn 2013. OAQ (4) 0233 (ESK)

4. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar gasglu a defnyddio data biometreg disgyblion gan ysgolion a cholegau.  OAQ(4)0225(ESK)

5. Aled Roberts (Gogledd Cymru):Beth yw ymateb y Gweinidog i asesiad Estyn bod bylchau yng ngwybodaeth athrawon yn rhwystro plant rhag dysgu Cymraeg. OAQ(4)0230(ESK) W

6. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddisgyblaeth mewn ysgolion yn Nwyrain De Cymru. OAQ(4)0218(ESK)

7. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu’r blaenoriaethau yn ei bortffolio ar gyfer Gogledd Cymru yn 2013. OAQ(4)0231(ESK)

8. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella lefelau llythrennedd yn Nyffryn Clwyd. OAQ(4)0226(ESK)

9. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer y deuddeg mis nesaf. OAQ(4)0217(ESK)

10. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i wella addysgu Cymraeg fel ail iaith. OAQ(4)0219(ESK)

11. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am welliannau i ysgolion yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.OAQ(4)0224(ESK)

12. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Arolwg Estyn o Awdurdod Addysg Lleol Powys. OAQ(4)0222(ESK)

13. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at brentisiaethau yng Nghymru. OAQ(4)0228(ESK)

14. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr Unfed Ganrif ar Hugain.OAQ(4)0221(ESK)

15. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu cymorth i ddysgwyr ag Anghenion Addysgol Arbennig yng Nghymru.OAQ(4)0234(ESK)

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

1. William Graham (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael ag achosion lle mae awdurdodau lleol yn methu â darparu arfer gorau. OAQ(4)0235(LGC)

 

2. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru o ran diogelwch cymunedol. OAQ(4)0232(LGC)

 

3. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint o bobl yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru sydd bellach yn gorfod talu’r dreth gyngor ers i’r rheoliadau diweddaraf ar y dreth gyngor gael eu pasio. OAQ(4)0229(LGC)W

 

4. Darren Millar (Gorllewin Clwyd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei gynlluniau ar gyfer dyfodol trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.OAQ(4)0226(LGC)

 

5. William Graham (Dwyrain De Cymru):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cydweithrediad rhwng Llywodraeth Cymru a’r sector gwirfoddol.OAQ(4)0236(LGC)

 

6. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gydweithrediad llywodraeth leol er mwyn gwella trafnidiaeth gyhoeddus.OAQ(4)0225(LGC)

 

7. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer beicio yn 2013. OAQ(4)0238(LGC)

 

8. Christine Chapman (Cwm Cynon):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddull Llywodraeth Cymru o wella diogelwch ar y ffyrdd yng Nghymru.OAQ(4)0234(LGC)

 

9. Lynne Neagle (Tor-faen):A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer Tor-faen yn y flwyddyn i ddod. OAQ(4)0237(LGC)

 

10. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau ar gyfer llywodraeth leol yng nghanolbarth Cymru.  OAQ(4)0228(LGC)

 

11. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strwythurau cyflog mewn awdurdodau lleol.  OAQ(4)0224(LGC)

 

12. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihau troseddau yn Nyffryn Clwyd.OAQ(4)0230(LGC)

 

13. Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am waith tasglu Trafnidiaeth Integredig De Ddwyrain Cymru.OAQ(4)0227(LGC)

 

14. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer llywodraeth leol dros y chwe mis nesaf.OAQ(4)0231(LGC)

 

15. Sandy Mewies (Delyn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus i ddefnyddwyr sy’n ddall neu’n rhannol ddall.  OAQ(4)0233(LGC)